Gweithdai TG
Mae Bendigeidfran yn darparu Gweithdai, Meddygfeydd ac Hyfforddiant TG ar gyfer unrhyw achlysur!
Mae'r digwyddiadau lled strwythuredig yma yn canolbwyntio ar heriau allweddol i bobl sydd angen arweiniad ac hyfforddiant.
Nod ein Gweithdai TG yw addysgu a chodi hyder pobl wrth ddefnyddio technoleg newydd.
Os ydych chi'n aelod o grŵp neu sefydliad lleol a theimlo’r angen i ddefnyddio TG mewn unrhyw ffordd neu am reswm penodol mae ein Gweithdai TG yn ffordd wych o rannu gwybodaeth ac addysgu pobl trwy weithgareddau grŵp a thrafodaethau. Rydym hefyd yn argymell trefnu sesiwn dilynol i werthuso a thrafod canfyddiadau'r digwyddiadau cyntaf.
Gall ein Gwasanaethau Meddygfeydd TG naill ai ddarparu Desg Cymorth TG, gan gynnig cefnogaeth a chyngor 1 ac 1, neu wasanaethau 'galw heibio' a 'cherdded o gwmpas' ar gyfer cefnogaeth a chyngor TG ar alw fel y gall grwpiau neu unigolion gyflawni tasgau yn fwy effeithlon.