Newyddion
Mae Bendigeidfran yn Clebran!
08/09/2020
Mae o wir yn bleser gennyf gyhoeddi fod Bendigeidfran wedi llwyddo i ennill cytundeb masnachol i ailwerthu gwasanaethau Telathrebu, Ffônau Symudol, Band Eang, O365 a Meddalwedd Gwrthfeirws ESET i fusnesau ar draws Cymru ac ochr draw i glawdd Offa.
AHOI!! Diwrnod Pitsio Miwtini ar y Fenai
08/09/2020
Mae’r Brenin, y Cawr â’r Arwr Bendigeidfran yn ychwanegu at ei rhestr o nodweddion cymeriad! Achos heddiw mae Bendigeidfran yn Fôr-Leidr, y Fôr-Leidr Digidol sy’n ceisio rheoli Gogledd Cymru! AHOI! #miwtini #hwbmenter #bendigeidfran #môrleidr #yfenai
Hen gyfrifiadur araf adref? Trawsnewidiwch o mewn i Chromebook anhygoel!
08/07/2020
Y cyfan sydd angen arnoch yw Cyfrif Gmail / Google!
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Bendigeidfran!
Heb amheuaeth, mae seinydd clyfar yn gweithio’n llawer gwell gyda sgrin.
17/06/2020
Dyma adolygiad Bendigeidfran o'r Google Nest Hub Max.
Pam y Google Nest Hub Max? Wel... y buddsoddiad gorau wnes i drwy gydol pandemig Covid19 yn bendant
Mae'n gwneud bywyd yn haws yn eich cartref! Mae'n hawdd gofyn am gyfarwyddiadau coginio ar YouTube, chwarae cerddoriaeth, gosod amserydd neu sgwrsio wyneb y wyneb dros fideo gyda’ch ffrindiau neu aelod o'r teulu.
Bendigeidfran ar y Radio!
30/01/2020
Roedd Bendigeidfran yn ddigon ffodus i dderbyn gwahoddiad i gymryd rhan mewn eitem Dros Ginio gyda BBC Radio Cymru ym Mangor heddiw, trafodaeth gyda Catrin Haf Jones ynghylch Cwcis ar-lein.
Aeth hi ddim yn rhy ddrwg i feddwl mai hon oedd y tro cyntaf i mi (Ben Roberts) siarad ar y Radio, gallai wedi bod yn well, gobeithio caf wahoddiad i siarad am TG rywbryd eto! Gwerthfawrogi'r cyfle o leiaf.
Braf cael hysbysebu busnes Bendigeidfran ar y tonfeddi!
Dyma'r clip - https://www.bbc.co.uk/sounds/play/m000drms (29 munud)